,

๐Ÿ’—ย ๐Ÿด๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ Ionawr 2021! ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿด๐Ÿ’—ย 

๐Ÿ’—ย ๐Ÿด๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ Ionawr 2021! ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿด๐Ÿ’—ย 

๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿ’—๐Ÿด๐Ÿ‘€๐Ÿ˜„โ˜•๐Ÿƒ๐Ÿ‘ฉโ€๐Ÿณ๐Ÿคฉ๐ŸŽถย ๐Ÿ‘จโ€๐Ÿ‘จโ€๐Ÿ‘งโ€๐Ÿ‘งโ“

BLWYDDYN NEWYDD DDA!

Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn newydd a chawsom ddechrau da i'r flwyddyn ym mis Ionawr!

Yn ystod mis Ionawr cynhaliwyd/rhannwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys rhestrau chwarae (Dilynwch Spotify MICNPTย ), heriau, crefftau, ryseitiau, chwileiriau a mwy (Popeth ar gael ymaย ๐Ÿ‘‰ย Adnoddau MICNPT!). Roedd rhai o'r themรขu yn cynnwys y Fari Lwyd, Arbed a ddydd Santes Dwynwen!

Cynhaliwyd 2 gystadleuaeth ar ein thema 'Mari Lwyd!'ย ๐Ÿด Diolch enfawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cystadlaethau o greu penglog allan o ddeunydd ailgylchu neu ar Minecraft, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe! Ymdrechion arbennig! Ewch draw i'n tudalen Facebook i weld yr ymdrechion i gyd ac i weld pwy enillodd... ๐Ÿ‘‰ Facebook MICNPTย 

Hoffwn hefyd llongyfarch Ken Thomas am ei gais yn gystadleuaeth y Mentrau Iaith - Stomp y Fari Lwyd. Cystadleuaeth i ysgrifennu penillion Pwnco! Da iawn i ti Ken am gael 'mentsh' yn y feirniadaeth am yr ymdrech gorau o'r gystadleuaeth - Gwych! Cliciwch yma i glywed pennillion pwnco Ken!ย ๐Ÿด

Yng nghanol y mis cynhaliwyd sesh sลตn digidol ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Diolch i bawb am ddod! Eto roedd hi'n sesiwn llwyddiannus iawn ac yn sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis!ย ๐ŸŽปย  ย  ย  Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth 9fed o Chwefror - Sesiwn i ddathlu/cefnogi Dydd Miwsig Cymru 2021!ย ๐ŸŽผ

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebookย LLyfrgell GCGย ๐Ÿ˜„

Ar yr 25ain o Ionawr rydyn ni'n dathlu dydd Santes Dwynwen pob blwyddyn. Rhannwyd amrywiaeth o bethau ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys pecyn 'Mr a Mrs' i chi ddefnyddio yn eich cartrefi! Rho' gynnig ar y pecyn gyda'ch cariadon ๐Ÿ‘‰ย Pecyn Santes Dwynwen

Cawsom 2 sesiwn Cylch Canu ar Zoom yn ystod y mis. Diolch i bawb am ymuno รข ni am sesiwn canu a stori Cymraeg!ย ๐Ÿ™‚ย Ewch i dudalen Facebookย Cylch Canuย am fwy o wybodaeth!

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'ย  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sรชr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres arย ein tudalen Youtubeย ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Ionawr! Plรฎs cysylltwch รข ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!

Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! DIOLCH!ย ๐ŸŒˆ

๐Ÿ‘‡๐Ÿ‘‡๐Ÿ‘‡

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *