Mae mis arall wedi hedfan! Ein themâu yn ystod y mis oedd picnic, miwsig a chrefftau!
Cawsom sesh sŵn digidol llwyddiannus unwaith eto (ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe). DIOLCH i bawb am ddod i'r sesiwn! Roedd pawb wedi mwynhau chwarae neu wrando ar gerddoriaeth gwerin! Mae'n sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis! Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth y 13eg o Orffennaf am 7yh
. Cysylltwch i dderbyn y côd zoom neu am fwy o wybodaeth:
cymuned@micnpt.cymru
Cawsom dau sesiwn 'Amser Canu,' ar y cyd gyda Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen yn ystod y mis. Sesiwn o ganu a storiâu Cymraeg i blant 0 - 5 oed. Bydd ein sesiwn nesaf yn FYW ar ddydd Mercher 11eg o Awst. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG DIOLCH hefyd i bawb a ddaeth i'n sesiwn hwyl yn ystod y mis. Cadwch lygaid allan ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddyddiadau sesiynau tebyg yn ystod gwyliau'r haf! ☀️
Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG .
Yn ystod y mis rhannwyd adnodd newydd o'r enw 'Hoe fach Cloi'. Edrych am syniadau ar bethau i wneud fel teulu heb y ffôn/cyfrifiadur? Dyma rywbeth i chi. Ewch i'n tudalen Facebook i weld ein syniadau!
Ail ddechreuodd Cylch Canu (Cylch Ti a Fi) yn ystod y mis yn Ysgol y Cribarth, Abercraf. Os hoffech mwy o wybodaeth am y sesiwn i riant â phlentyn ewch i Facebook Cylch Canu.
Cafodd ysgolion Cymraeg y sir sioe arbennig o'r enw 'Taith yr Iaith' gan Sioe Mewn Cymeriad ar ddiwedd y mis. Cyfle i dros 180 o blant i ddysgu am hanes ein hiaith mewn ffordd hwyl a chyffrous!
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe am ennill y rownd sirol yn y Cwis Dim Clem ac am gyrraedd y rownd derfynol! Ymdrech arbennig! 👏 Gallwch ddarllen mwy yma.
Ydych chi wedi gweld ein tudalen Youtube eto? Mae 'na amrywiaeth o bethau i wylio fel fideos coginio, creu toes a chyfres glonc a chân - Mae 'na rywbeth at ddant bawb! Cliwich yma i weld!
Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod y mis. Plîs cysylltwch â ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!
Rydym ni nôl yn y swyddfa yn ystod yr wythnos ond am ddydd Gwener erbyn nawr ac yn edrych ymlaen at ail ddechrau pethau wyneb i wyneb a pharhau i rannu ein hadnoddau digidol mis nesaf!
Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phopeth sydd ymlaen! DIOLCH!
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg
**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr wythnosol i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

