,

Hanner ffordd trwy'r flwyddyn! 🌸🌤️

Hanner ffordd trwy'r flwyddyn! 🌸🌤️

A dyna ni, mis arall wedi hedfan heibio. Roedd Mehefin yn fis prysur, llawn hwyl a sbri! Mae'n hyfryd i fod nôl i'r arfer yn gweithredu yn gymunedau sir Castell-nedd Port Talbot. 🙂

Yn ystod y mis parhaodd grwpiau lleol i gwrdd i ddefnyddio ac ymarfer eu hiaith Cymraeg yng Ngwaun Cae Gurwen (ar zoom), Creunant ac Aberafan. Os ydych chi'n edrych am sesiwn anffurfiol i sgwrsio yn Gymraeg dyma sesiynau i chi! Danfonwch neges i datblygu@micnpt.cymru os hoffech fwy o wybodaeth!

Cawsom ni cwpl o ddigwyddiadau ar y cyd gyda Fenter Iaith Abertawe a Dysgu Cymraeg yn ystod Mehefin i siaradwyr Cymraeg newydd. Yr un gyntaf oedd ffair 'Agor y Drws' yn Nhŷ'r Gwrhyd, Pontardawe - Cyfle i bobl yr ardal i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i gymdeithasu yn Gymraeg. Diolch i bawb am ddod, roedd hi'n wych i gwrdd â phawb a chael sgyrsiau dros baned. Diolch i Gildas hefyd am ddod i orffen y sesiwn gyda gwledd o ganu Cymraeg! Yr ail ddigwyddiad oedd Y Cwis Mawr yng nghlwb rygbi Clydach. Digwyddiad i siaradwyr Cymraeg newydd i fwynhau a chymdeithasu yn Gymraeg! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🗣️

Cawsom ni Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Mehefin. Bydd ein sesiwn nesaf ar y 12fed o Orffennaf. Ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Gwerin? Dyma sesiwn i chi! Cysylltwch â datblygu@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🪕

Ar nos Wener yr 17eg o Fehefin roedd Gŵyl Gomedi Castell-nedd gyda Noel James, Lorna Pritchard, Phil Cooper a Lloyd a Williams. Noson o chwerthin a joio, diolch i bawb am fynychu!

Yn ystod y mis cawsom ni sesiynau canu yn Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen a Phort Talbot. Diolch i chi gyd am ddod! Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae'r sesiynau nesaf yn digwydd. Hefyd aeth ein swyddog datblygu i ymweld â chriw Cylch Cwmafan am sesiwn o grefftau a chanu Cymraeg. Diolch am y croeso! Cliciwch yma am gopi o daflen canu MICNPT. ⭐️🎶

Aethon ni i gwrdd â Chylch Ti a Fi, Ysgol Gymraeg Cwmnedd ar ddiwedd y mis. Cyfle i greu perthynas gyda'r grŵp i godi ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg a sgwrsio am unrhyw ofidion sydd gan y rhieni am ddewis addysg Gymraeg. Diolch am y croeso, roedd hi'n braf cwrdd â chi gyd a edrychwn ymlaen at ddod nôl i wneud sesiwn ganu Cymraeg.

Ar y 14eg o Fehefin cawsom ni sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith gyda blynyddoedd 5 a 6 yn YGG Cwmllynfell. Roedd y sesiwn i godi ymwybyddiaeth o'r manteision o allu siarad Cymraeg a sut gall siarad yr iaith bod yn fuddiol wrth dyfu lan. Hefyd, roedd cyfle i'r plant i rannu syniadau ar ba fath o sesiynau byddwn nhw'n mwynhau gwneud yn y Gymraeg. Diolch i'r ysgol am y croeso, roedd hi'n braf clywed ymatebion positif y plant tuag at yr iaith Gymraeg! Daliwch ati! 👍😃

Cafodd disgyblion blwyddyn 6 o ysgolion Cymraeg y sir diwrnod llawn weithgareddau hwyl yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ystod y mis. Sesiynau i'r plant i gwrdd gyda rhai o'r athrawon newydd a fydd yn dysgu nhw ym mis Medi a chyfle i gael taith o amgylch yr ysgol. Diwrnod o fwynhau a dathlu Cymreictod!

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio yn ein cymunedau dros y misoedd nesaf. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n dod…😃

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *