,

Mis Mai! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Mis Mai! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎻🏉👀😄☕🍃👩‍🍳🤩🎶 👨‍👨‍👧‍👧❓

Cawsom fis prysur ym mis Mai yn rannu llwyth o adnoddau a chynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hwyl! Ein themau yn ystod y mis oedd Calan Mai, Twm Siôn Cati, Cerdded i'r ysgol a Hanner Tymor 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🤩

Dilynwch Spotify MICNPT

Adnoddau MICNPT 

Ar yr ail ddydd Mawrth o'r mis roedd ein sesh sŵn digidol, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. DIOLCH i bawb am ddod i'r sesiwn! Cyfle i bawb i ddod i fwynhau wrth chwarae neu wrando ar gerddoriaeth gwerin! Mae'n sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻 Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth yr 8fed o Fehefin am 7yh  🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 . Cysylltwch i dderbyn y côd zoom neu am fwy o wybodaeth:  📧 cymuned@micnpt.cymru

Cawsom dau sesiwn 'Amser Canu,' ar y cyd gyda Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen yn ystod y mis. Sesiwn o ganu a storiâu Cymraeg i blant 0 - 5 oed ar ddydd Iau am 1yp ar Zoom (bob yn ail wythnos). Ymunwch â ni yn ein sesiwn nesaf ar 10fed o Fehefin. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 🤩

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 😄. Edrychwn ymlaen at wneud cwis yn ystod y sesiwn ar yr 8fed o Fehefin!

Yn ystod y mis rhannwyd HERIAU  - Da iawn i bawb wnaeth cwblhau pob un. Cliciwch yma i ddarganfod HERIAU mis Mehefin. 👍

Roeddwn ni'n lwcus i gael sesiwn goginio arall gan Mr Henry yn ystod y mis hefyd. Rhowch gynnig ar greu rholyn Swisaidd coch, gwyn a gwyrdd: Cynhwysion | Tiwtorial

- Rhannwch eich lluniau gyda ni! 📸😋

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe am ennill y rownd sirol yn y Cwis Dim Clem. Pob lwc iddynt yn y rownd derfynol ym mis Mehefin! 🤞

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Mai! Plîs cysylltwch â ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!

Edrychwn ymlaen at rannu mwy o adnoddau a gweithgareddau gyda chi yn ystod mis Mehefin!

Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! DIOLCH! 🌈

👇👇👇

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr wythnosol i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

 

      

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *