Mis Mawrth!

Mis Mawrth!

Dechreuodd mis Mawrth yn brysur iawn gyda'n dathliadau am ddydd Gŵyl Dewi. Roedd y sesiynau yn cynnwys Sesiwn Ganu yn llyfrgell Port Talbot, Crefftau yn Llyfrgell Ystradgynlais, Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith yn ysgolion cyfrwng Saesneg Coedffranc a Rhos, a sesiynau gyda meithrinfeydd lleol. Cawsom lawer o hwyl ym mhob sesiwn! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Parhaodd pob Bore Coffi / Caffi Cymraeg lleol yn ystod y mis. Hefyd, dechreuodd un newydd yn Llyfrgell Pontardawe. Mae'r sesiynau yn rhoi'r cyfle i bobl i sgwrsio ac i ymarfer eu hiaith Gymraeg. Os ydych chi'n edrych am sesiwn i ymarfer eich Cymraeg yn anffurfiol cliciwch yma. ** Ewch i dudalen Facebook y Fenter i weld diweddariadau am y sesiynau (i ymwneud â COVID-19).

Cawsom ni Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Mawrth. Diolch i bawb am ddod! Bydd ein sesiwn nesaf ar y 12fed o Ebrill. Ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Gwerin? Dyma sesiwn i chi! Cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🎻🎶

Yn ystod y mis roedd tri sesiwn ganu yn Llyfrgell Port Talbot. Cawsom ni llawer o hwyl yn y sesiynau, diolch i bawb am ddod. Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd fydd y sesiynau nesaf! 🤩

Roedd criw Cylch Canu wedi parhau i gwrdd pob bore dydd Mercher yn Ysgol y Cribarth, Abercraf am gylch ti a fi. Braf i weld cymaint o deuluoedd yn dod i chwarae, mwynhau a chanu yn Gymraeg. Dilynwch Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth. 🎶

Yng nghanol y mis roedd rownd derfynol y rhanbarth Cwis Dim Clem. Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Tyler Ynn am gyrraedd y rownd derfynol ac am eu hymdrech arbennig! Da iawn chi! ❓ Gallwch ddarllen mwy yma.

Ar ddiwedd y mis aeth ein swyddog cymuned mewn i glwb coginio Ysgol Cwm Brombil. Cyfle da i greu perthynas gydag ysgol newydd ac i gynyddu'r defnydd o Gymraeg yn ystod y sesiwn. Edrychwn ymlaen at barhau i ymweld â nhw.

Oeddech chi'n gwybod ei bod ni'n dathlu 20 mlynedd ym mis Ebrill?! 2⃣0⃣🎈 Felly, mae gennym ni lawer o bethau cyffrous yn digwydd. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol NAWR i weld beth sy'n dod…

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

May be an image of 6 people and child
May be an image of 4 people and people standing

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *