Ar nos Fawrth yr 8fed o Ragfyr cafwyd Sesh Sŵn Nadoligaidd dros ‘Zoom’. Braf oedd gweld nifer wedi ymuno i ganu a chwarae alawon a chaneuon adnabyddus y Nadolig. Roedd yn hyfryd i glywed unigolion yn canu unawdau hefyd. Yn ogystal cafodd y criw gyfle i chwarae cȃn arbennig ‘Cȃn Dathlu’r Nadolig’ a gafodd ei gyfansoddi gan un o’r mynychwyr Ken Thomas.Â
Erbyn diwedd y noson roedd pawb yn hwyl yr ŵyl ac yn edrych ymlaen at y Nadolig.Â
 Beth am ymuno yn ein Sesh Sŵn nesaf ar y 12fed o Ionawr? Cyfle i chwarae alawon a chaneuon yn ymwneud gyda’r Hen Galan a’r Fari Lwyd.
 Edrych ymlaen i weld chi yna!