Sesh Sŵn Nadolig

Cynhaliwyd noson ragorol neithiwr yn nhafarn y Gwachel ym Mhontardawe gyda Sesh Sŵn Nadolig. Braf oedd gweld cymaint yn bresennol, yn enwedig gan ystyried amser y flwyddyn. Diolch i'r grŵp "Sweyn ey Morris" am ddod i ddiddanu ni gyda pherfformiad 'Crwmpyn John'.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynych u a chefnogi'r sesiynau dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn newydd. Nadolig llawen i chi gyd!

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *