Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi cyrraedd rhestr fer ar gategori gwobrau’r Mentrau Iaith, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar Ionawr 22ain er mwyn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae’r mudiad sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sir wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Digwyddiad’ ar gyfer Sesh Sŵn.
Mae’r Sesh Sŵn yn sesiwn werin Gymraeg, ac yn gyfle i bobl o bob oed, gallu ieithyddol a cherddorol gwrdd mewn sefyllfa anffurfiol i chwarae cerddoriaeth draddodiadol a phoblogaidd. Gyda Sesh Fach hefyd yn gyfle i offerynwyr dechreuol ddysgu'r caneuon, mae cyfle i bawb ddatblygu sgil yn ogystal ag ymarfer yr iaith.
Dywed Bethan Davies, Prif Swyddog Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot;
Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Mentrau Iaith gyntaf erioed. Mae cael ein hystyried ar gyfer y wobr hon gyda'r prosiectau eraill ar y rhestr fer yn anrhydedd go iawn. Mae'r Sesh Sŵn yn golygu cymaint i gymaint o bobl yn ein cymuned, ac mae'r twf mewn diddordeb yn ein gweithgareddau megis Sesh Fach yn dangos hynny. Mae'r Sesh yn caniatáu i bobl o bob rhan o'r sir ddod at ei gilydd i chwarae cerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol, mewn awyrgylch gyfeillgar, i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. I lawer, mae'n gyfle gwych i ymarfer eu sgiliau Cymraeg ac i gwrdd â phobl newydd. Mae’r ffaith bod dau fand wedi ffurfio’n rhannol oherwydd llwyddiant y Sesh yn wych, mae cael cerddorion lleol yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth Gymraeg yng Nghastell-nedd a Phort Talbot yn fwy nag y gallem fod wedi gobeithio amdano pan ddechreuodd y prosiect.
Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Datblygu Cymunedol’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar Ionawr 22ain, 2020.
Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru a’n ceisio cynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn dilyn strategaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.
Gallwch ddarganfod mwy yn http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/
