Mae llwyddiant y 'Stafell Stwnsh wedi mynd o nerth i nerth y tymor diwethaf.
Gyda channoedd a channoedd o ddisgyblion yn dod trwy ein drws ar gyfer nifer o wahanol glybiau a gweithgareddau. Mae niferoedd y twrnamentiau ping pong a gynhelir yn enfawr, gyda'r hwyl a'r chwerthin yn adleisio drwy'r ysgol.
Mae'r ystafell ar gael i'r myfyrwyr ymarfer a dangos balchder yn eu treftadaeth a'u hiaith. Rydym yn defnyddio gemau a gweithgareddau modern ac yn rhoi tro Cymraeg hwyliog iddynt! Mae'r stwnsh ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener - Cynhwysol i bawb!
