Allwn ni ddim credu bod mis arall wedi mynd heibio - Cawsom lawer o hwyl a sbri ym mis Tachwedd! 😃 Ein thema yn ystod y mis oedd 'Chwaraeon.' Cafodd amrywiaeth o bethau ei rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Heriau, Ryseitiau, Crefftau a Rhestrau chwarae. Beth oedd eich hoff adnodd?
Roedd criw Cylch Canu Ysgol y Cribarth, Abercraf wedi parhau i gwrdd pob bore dydd Mercher yn ystod tymor ysgol. Mae Cylch Canu yn Gylch Ti a Fi ac yn gyfle i rieni â phlant bach i chwarae, gwneud crefftau a chanu yn Gymraeg. Ewch i Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth! ⭐️
Cawsom sesiynau canu yn Llyfrgell Port Talbot a Gwaun Cae Gurwen ym mis Tachwedd. Diolch i chi gyd am ddod! Roedd hi'n wych i ganu cwpl o ganeuon newydd am yr Hydref. Cliciwch yma am gopi o'n Caneuon Hydref. 🎶
Yn ystod y mis aeth staff y Fenter mewn i 3 Ysgol Gynradd y sir; YGG Pontardawe, YGG Trebannws ac YGG Ystalyfera Bro Dur i gynnal sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith. Sesiynau am Gymreictod ac i bwysleisio'r manteision o allu siarad Cymraeg, nid yn unig yn ysgol ond hefyd tu allan i orau ysgol ac yn y dyfodol. Roedd ymateb y plant yn y sesiynau yn arbennig! Edrychwn ymlaen at gynnal mwy o sesiynau yn y flwyddyn newydd. 🏴
Aeth Magi Ann i ymweld â mwy o ysgolion yn ystod y mis hefyd. Diolch i YGG Castell-nedd a YGG Rhosafan am y croeso! Roedd Magi Ann wrth ei bodd yn clywed chi'n canu! Ydych chi wedi lawr lwytho apiau Magi Ann eto? Cliciwch yma i weld beth sydd ar gael! 📚🤩
Dechreuodd cyfres newydd o fideos gan 'Cegin Mr Henry' yn ystod y mis - Fideos o'i Top Tips coginio dros y Nadolig! Ewch i YouTube y Fenter i weld y fideos! 🧑🍳🎄
Cawsom Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Tachwedd. Diolch i bawb am ddod - Bydd ein sesiwn nesaf ar y 14eg o Ragfyr. Ymuna yn hwyl yr ŵyl wrth chwarae a chanu caneuon Nadoligaidd gyda ni! Cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🎻
Parhaodd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen i gwrdd pob bore dydd Mawrth ar Zoom i sgwrsio ac i ymarfer eu hiaith Gymraeg. Aeth staff y Fenter i gwrdd â chriw Caffi Cymraeg Creunant yn ystod y mis hefyd. Ydych chi'n edrych am sesiwn i fynd i ymarfer eich Cymraeg yn anffurfiol? Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. 🏴
Ar y 19eg o Dachwedd roedd ein Noson Gomedi yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. Roedd hi'n noson arbennig gyda llawer o chwerthin a joio! Diolch enfawr i'r holl gomediwyr; Noel James, Daf Rhys, Josh Elton, Mel Owen, Beth Jones, Kris Davies a Steffan Evans! 🤣
Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd sesiwn glonc dros baned a chyfarfod i drigolion ardal Rhos. Rydym yn awyddus iawn i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ardal. Felly, roedd y sesiynau yma yn gyfle i gwrdd â phobl Rhos ac i drafod a rhannu syniadau. Edrychwn ymlaen at weithredu rhai o'r syniadau yma yn y flwyddyn newydd!
Dechreuodd ein swyddog datblygu cynnal sesiynau am rownd 1 o'r 'Cwis Dim Clem' gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg y sir. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut bydd yr ysgolion yn gwneud dros y misoedd nesaf! 🏆
Dyna ni, mis llawn adnoddau, gweithgareddau a phrosiectau! Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gynnal a rhannu llawer o bethau hwyl yn ystod mis Rhagfyr. Mae'r Nadolig ar y ffordd! Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol NAWR i weld beth sy'n dod…
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg
**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**





