Braf oedd cynnal taith Ar Droed yn Rhaeadr Melincwrt gydag Iolo Williams ar ddydd Mawrth, 17eg o Hydref. Yn ffodus i ni, arosodd y tywydd yn braf trwy'r dydd!
Cawsom ddwy sesiwn fendigedig gyda myfyrwyr Ystalyfera Bro Dur yn mynychu yn y bore a sesiwn cymunedol ardderchog yn y prynhawn.
Roedd gweld amrywiaeth o siaradwyr newydd a rhugl yn cyd-gwrdd i ymarfer eu Cymraeg ac i ddysgu am yr hyn sydd i'w weld ym myd natur yn arbennig. Os hoffech gopi o'r daflen geirfa wnaeth gyd-fynd a'r daith, a chrëwyd gan brosiect Gwreiddiau Gwyllt, cliciwch yma.
Diolch i bawb wnaeth ddod a diolch i Iolo am gyflwyno ei wybodaeth eang mewn ffordd mor ddiddorol!

