Ydych chi’n hoffi dysgu am hanes a ddigwyddiadau’r gorffennol? Dyma’r clwb i chi!Â
Bydd clwb Y Ditectifs yn gyfle i chi ddysgu fwy am rai o ddigwyddiadau mawr Cymru, edrych ar gestyll arbennig, ymweld gydag amgueddfeydd, gwneud crefftau, coginio a mynd ar deithiau cerdded.
Gwyliwch y fideo yma!  👀
Pryd? Mi fydd y clwb yn digwydd ddydd Sadwrn cyntaf bob mis.
Amser? 10:30yb
I bwy? Plant rhwng 7-11 mlwydd oed.
Ble? Ar Zoom ar hyn o bryd, ond unwaith fydd y rheolau yn caniatáu ni’n gobeithio cwrdd wyneb yn wyneb.
Mae’r clwb yma ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe a Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed felly mae croeso cynnes i unrhywun o’r tair sir.
Ebostiwch cymuned@micnpt.cymru heddiw i gofrestru neu am fwy o wybodaeth.
