,

Y mis bach! 🏉

Y mis bach! 🏉

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎻🏉👀😄☕🍃👩‍🍳🤩🎶 👨‍👨‍👧‍👧❓

Mae'r 28 diwrnod o fis Chwefror wedi hedfan!

Yn ystod y mis cynhaliwyd/rhannwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau a adnoddau wythnosol yn cynnwys rhestrau chwarae (Dilynwch Spotify MICNPT ), heriau, crefftau, ryseitiau, chwileiriau a mwy (Popeth ar gael yma 👉 Adnoddau MICNPT!). Roedd rhai o'r themâu yn cynnwys Dydd Miwsig Cymru, Rygbi a Hanner Tymor.

Gallwch ddarllen am beth ddigwyddodd am ddydd Miwsig Cymru yma 🎶

Ym mis Chwefror roedd 2 sesh sŵn digidol, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. DIOLCH i bawb am ddod ac am eich cefnogaeth barhaus! Roedd y sesiynau yn llwyddiannus iawn ac mae'n sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻 Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth yr 2ail o Fawrth am 7yh - Sesiwn i ddathlu dydd Gŵyl Dewi. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Cliciwch yma i ymuno.

Cawsom wythnos arbennig yn ystod hanner tymor! Rhannwyd amrywiaeth o adnoddau i bawb i fwynhau ac roedd amserlen o ddigwyddiadau llawn hwyl a sbri i blant a theuluoedd i gymryd rhan ynddi. Ar ddechrau'r wythnos daeth dros 25 o deuluoedd sir CNPT ac Abertawe i gymryd rhan yn ein sesiwn coginio gyda Mr Henry. Sesiwn i greu crempog flasus iawn!! 👩‍🍳  Y diwrnod wedyn roedd sesiwn byw gyda Siani Sionc ar ein Facebook. Sesiwn hynod o lwyddiannus gyda dros fil a hanner o wylwyr erbyn nawr! Gallwch ail wylio'r sesiwn yma. 🎶 I orffen yr wythnos roedd sesiwn arbennig o ddawnsio ar zoom gyda Jalisa o Academy of Arts! Diolch i bawb am fynychu'r sesiynau ac i'n partneriaid am y sesiynau gwych!! 🤩

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 😄

Cawsom sesiwn Cylch Canu ar Zoom yn ystod y mis. Diolch i bawb am ymuno â ni am sesiwn canu a stori Cymraeg! 🙂 Bydd y sesiwn nesaf ar y 3ydd o Fawrth am 3yp - Sesiwn i ddathlu dydd Gŵyl Dewi!  Ewch i dudalen Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth!

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Chwefror! Plîs cysylltwch â ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!

Edrychwn ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi a llawer mwy ym mis Mawrth!

Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! DIOLCH! 🌈

👇👇👇

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *